IMPACS - Internal

Gwybodaeth bwysig am amgylchiadau arbennig

Mae hyn yn crynhoi ac egluro’r prif bwyntiau. Gweler http://www.aber.ac.uk/cy/academic/special-circumstances/ i gael yr wybodaeth swyddogol.

Beth yw amgylchiadau arbennig?

Mae amgylchiadau arbennig yn cynnwys sefyllfaoedd tebyg i hyn: salwch cyfnod byr neu gyfnod hir, problemau ariannol dybryd, problemau sylweddol ynglŷn â llety, profedigaeth neu dir personol tosturiol arall. Os ydych yn ei chael yn anodd oherwydd anabledd neu wahaniaeth dysgu anfonwch e-bost at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..

Ym mha ffordd y gall cyflwyno gwybodaeth am amgylchiadau fod o gymorth?

CHEWCH CHI DDIM marciau ychwanegol. Mae trefn y Brifysgol yn ceisio ‘gwastatáu’r cae chwarae’ trwy ganiatáu i adrannau argymell:

  • I bob myfyriwr: cyfle i ailsefyll modiwlau a fethwyd, heb orfod talu ffi ailsefyll, yn yr arholiadau atodol ym mis Awst.
  • I israddedigion yn Rhan 2 (blwyddyn 2 a thu hwnt) a myfyrwyr M.Sc. ar gyrsiau: cyfle i ailsefyll modiwlau a fethwyd am y marciau llawn yn hytrach na marciau wedi’u capio fel sy’n arferol ym mlynyddoedd 2 a thu hwnt. Os yw eich canlyniadau yn dda er gwaetha’r amgylchiadau, ac eto nad ydynt yn ymddangos yn unol â gweddill eich marciau Rhan 2 na chawsant eu heffeithio wrth i ni ystyried marc cyffredinol eich gradd yn y bwrdd arholi terfynol, byddwn yn ystyried y dystiolaeth os ydych yn agos iawn i’r ffin rhwng dosbarthiadau gradd. Gallai hyn effeithio ar yr argymhelliad terfynol.
Sut i ddweud wrth yr adran
  1. Llenwi ffurflen amgylchiadau arbennig sydd i’w chael o’r blychau ar y wal ger y swyddfa Cyfrifiadureg, neu oddi yma. RHAID i chi roi digon o fanylion i ddangos bod gwaith y modiwl wedi ei effeithio. Felly nodwch y cod i’r modiwl, a dweud ai arholiad neu aseiniad oedd (a pha aseiniad, os oedd mwy nag un). Yn bwysicach na dim, nodwch ddyddiadau’r cyfnod yr effeithiwyd arnoch gan yr amgylchiadau hyn ac yn ogystal â hyn ddyddiadau’r gwaith yr effeithiwyd arno, a DISGRIFIWCH effeithiau’r amgylchiadau ar eich gwaith. Nid oes gan y Bwrdd hawl i wneud tybiaethau. Gall torri braich effeithio neu beidio ag effeithio ar waith myfyriwr. Rhaid i chi ddweud wrthym sut yr effeithiwyd ar eich gwaith. Er enghraifft yn achos torri braich, ai hon oedd y llaw a ddefnyddiwch i ysgrifennu? A effeithiwyd ar gyflymder eich teipio?
  2. Cyflwynwch dystiolaeth ategol gyda’r ffurflen. Gall hyn fod: yn nodyn gan eich meddyg, neu lythyr o’r gwasanaeth ymgynghori os ydych yn eu gweld hwy. Os cawsoch brofedigaeth teuluol bydd angen i chi ddarparu taflen gwasanaeth angladd neu hysbyseb coffa. Gallwn gymryd copïau os dymunwch gadw’r gwreiddiol. Os ydych yn ansicr pa dystiolaeth i’w chyflwyno, e-bostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. er mwyn trefnu apwyntiad i siarad â rhywun. Os dymunwch, gallwn roi’r dystiolaeth mewn amlen wedi’i selio, a’i marcio’n ‘gyfrinachol’. Rhowch eich enw llawn a’ch rhif cyfeirnod myfyriwr ar yr amlen.
  3. Caiff ei drin yn unol â Datganiad y Brifysgol ar Gyfrinachedd a’i ddefnyddio’n unig gan y Byrddau Arholi i asesu ei effaith ar eich perfformiad yn yr asesiadau perthnasol. Ni fyddwch o dan unrhyw anfantais trwy gyflwyno’r wybodaeth amgylchiadau arbennig hon.
  4. Ewch â chopi o’r ffurflen a’r dystiolaeth i bob adran sy’n dysgu’r modiwlau yr effeithiwyd arnynt. Yn achos modiwlau Cyfrifiadureg rhowch eich ffurflen a’r dystiolaeth i’r Brif Swyddfa yn y Dderbynfa.
Pryd i ddweud wrth yr adrannau

Cyn gynted â phosibl ar ôl yr achlysur a CHYN i’r Byrddau Arholi gael eu cynnal. Bydd yr Adran Cyfrifiadureg yn anfon e-bost i’ch hatgoffa gan roi dyddiad cau i chi. Os cewch drafferthion wrth geisio cael tystiolaeth cyn y dyddiad hwnnw, e-bostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..

Rhybudd: Peidiwch ag aros i weld!

Ni allwch apelio yn erbyn canlyniadau ar sail amgylchiadau arbennig y gellid ‘yn rhesymol fod wedi eu hysbysu i’r adrannau cyn y Byrddau Arholi’, felly byddwch yn realistig am y ffordd yr effeithio arnoch, a gweithredwch nawr.